Dydd Mawrth 30 Tachwedd – Ar-lein
Trosolwg
Wrth i Gymru ddechrau gwella o bandemig Covid-19, mae’n bryd pwyso a mesur sut mae’r proffesiwn caffael wedi ymateb i heriau newydd a digynsail.
Ni fu darparu dulliau caffael effeithiol, cynaliadwy a brys yn aml i ddarparu gwaith, nwyddau a gwasanaethau hanfodol erioed yn bwysicach. Mae’r proffesiwn wedi addasu i’r heriau ac wedi ailflaenoriaethu ei adnoddau. Mae cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant cyffredin wrth gyflawni dros Gymru.
Yn y dyfodol, bydd parhau i wneud y mwyaf o wariant caffael yng Nghymru i gefnogi cyfoeth lleol a blaenoriaethau lleol yn allweddol i greu economi Gymreig fwy gwydn sy’n croesawu ein hadnoddau naturiol.
Bydd Cynhadledd Caffael Cyhoeddus Cymru 2021 – Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) yn dod â phrynwyr a chyflenwyr ynghyd mewn amgylchedd rhyngweithiol ar-lein i ddysgu o lwyddiannau diweddar.
Bydd yn darparu llwyfan unigryw i fynychwyr archwilio ystod o bynciau a chymryd rhan mewn dadleuon sy’n canolbwyntio ar gyfraniad hanfodol dulliau caffael cyhoeddus ac ar yrru ei gyfeiriad y tu hwnt i’r pandemig.
Siaradwyr y digwyddiad
John Coyne
Mae John Fitzgerald Coyne, sydd â’r llysenw 'Fitzy', yn arbenigwr ar ddatblygu sgiliau a strategaethau masnachol ar gyfer busnesau modern. Wedi'i enwi ar ôl 35ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, cafodd y fraint o weithio'n agos gyda'i chwaer, Eunice Kennedy Shriver, oedd yn eiriolwr dros faterion iechyd ac anabledd plant am flynyddoedd maith a sefydlodd y mudiad a ddaeth yn Gemau Olympaidd Arbennig.
Dechreuodd John ei yrfa yn sector twristiaeth Iwerddon ac ym 1991 daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol cyntaf erioed CPD Lerpwl lle cafodd y dasg o ehangu agweddau ariannol, masnachol a datblygu busnes y clwb.
Ar ôl gadael CPD Lerpwl, treuliodd John beth amser yn Chwaraeon Cymru cyn symud i'r sector iechyd lle mae wedi aros i raddau helaeth ers hynny.
Yn fwyaf diweddar, John oedd Rheolwr Gyfarwyddwr SWFT Clinical Services Limited, Cwmni Teckal sy’n eiddo i’r GIG. Yma roedd yn rheoli trosiant o tua £50m y flwyddyn a 280 o staff.
Mae wedi ymddangos ar 'This is your Life' a 'Question Time' ac wedi cyfweld â Pierce Brosnan, Liam Neeson, Cecelia Ahern a Colin Farrell ar gyfer straeon i bapur newydd yr Irish Post, ac fe gyflwynodd unwaith i Arlywydd hyd yn oed!
Mae John yn rhedwr brwd ac yn byw gyda'i wraig Lisa a'i ferch Darcy. Daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2021.
Rebecca Evans AS
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2011, i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth hi'n Aelod Cynulliad ar gyfer Gŵyr.
Cafodd Rebecca radd mewn Hanes o Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol o Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn cael ei hethol, bu Rebecca’n gweithio yn y trydydd sector.
Mae Rebecca wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy a’r Amgylchedd a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018, ymunodd â’r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Ar 13 Mai 2021 penodwyd Rebecca yn Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Malcolm Harrison
Ymunodd Malcolm Harrison â’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) ym mis Gorffennaf 2018 ar ôl gyrfa eang ac amrywiol a oedd yn ymestyn dros 30 mlynedd. Ar ôl cael profiad o nifer o wahanol sectorau, ardaloedd daearyddol a swyddi arwain uwch, mae Malcolm yn teimlo’n angerddol mai Caffael a Chyflenwi yw’r prif wahaniaethydd ar gyfer unrhyw sefydliad.
Ar ddechrau ei yrfa, bu’n gweithio ym maes Cynhyrchu, Gwerthu, Caffael, Cadwyn Gyflenwi ac Adnoddau Dynol gyda Mars Confectionery, Pedigree Petfoods a Bass. O 2000 ymlaen, creodd ac arweiniodd ymgyrch Gaffael fyd-eang ar gyfer Interbrew yng Ngwlad Belg, a chafodd ei benodi wedyn yn Brif Swyddog Caffael InBev. Yn 2006, ymunodd Malcolm â Nestlé SA yn y Swistir fel Prif Swyddog Caffael a oedd yn gyfrifol am un o’r gwariannau caffael FMCG mwyaf a mwyaf cymhleth yn y byd; canolbwyntiodd o ddifrif ar feithrin gallu ac ysgogi ymgysylltiad y swyddogaeth gaffael â busnesau Nestlé. Yn 2010 cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol yr adran fyd-eang ar Becynnu Plastig, a daeth yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Rexam plc, sef cwmni pecynnu defnyddwyr FTSE 100.
O 2015 ymlaen, bu Malcolm yn gweithio yn Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU lle bu’n Brif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS), gan oruchwylio gwariant blynyddol o dros £13 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau cyffredin ar draws sector cyhoeddus y DU. Roedd hefyd yn gyfrifol am Bolisi Caffael Sector Cyhoeddus y DU ac am gefnogi mentrau Llywodraeth y DU gyda busnesau bach a chanolig.
Ar ôl sefydlu a datblygu nifer o swyddogaethau Caffael dros gyfnod ei yrfa, mae Malcolm yn awyddus i CIPS lywio’r proffesiwn yn ei flaen, gan roi dysgu proffesiynol parhaus wrth galon yr agenda ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes caffael a chyflenwi. Mae sicrhau bod CIPS yn parhau i fod yn llais byd-eang i’r proffesiwn yn hanfodol i weledigaeth Malcolm ar gyfer CIPS yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau bod CIPS yn gallu parhau i gynrychioli’r proffesiwn ar y lefelau uchaf a hyrwyddo Caffael a Chyflenwi fel gyrfa wych.
Mae gan Malcolm Radd Meistr mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Caergrawnt. Mae’n byw yn y DU ac mae wedi treulio dros 12 mlynedd i gyd yn byw yng Ngorllewin Affrica, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Swistir Fel rhan o’i yrfa
Jonathan Irvine
Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Caffael
Dechreuodd Jonathan fel Cyfarwyddwr Caffael a Gwasanaethau Negesydd Iechyd ym mis Medi 2019.
Mae gan Jonathan brofiad helaeth o arwain ym maes caffael ar lefel genedlaethol o’i gyfnod yn y Sefydliad Gwasanaethau Busnes, y Gwasanaeth Caffael a Logisteg yng Ngogledd Iwerddon, lle bu’n ymwneud â gweithredu a datblygu gwasanaeth caffael a logisteg ar y cyd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws y wlad.
Yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain y swyddogaeth Gwasanaethau Caffael ar gyfer un o’r Ymddiriedolaethau acíwt mwyaf yn Lloegr, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Nottingham, lle cyflwynodd raglenni lleihau costau sylweddol a chyflwynodd ddulliau caffael arloesol sy’n seiliedig ar werth gan ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion.
Bydd yn defnyddio ei brofiad i ddatblygu’r ffordd “Unwaith i Gymru” o gaffael yn y GIG a sicrhau bod y genedl yn harneisio ac yn defnyddio ei phŵer a’i dylanwad prynu ar y cyd i ddarparu cynnyrch, gwasanaethau a systemau gofal iechyd sy’n cynnig gwerth am arian ar gyfer cleifion Cymru. Bydd Jonathan yn sicrhau bod y Gwasanaethau Caffael hefyd yn parhau i gefnogi Byrddau Iechyd a’r holl bartneriaid allanol i ddarparu gwasanaethau cost effeithiol ac effeithlon i gefnogi cleifion yn eu hardal leol.
Y tu allan i’r gwaith, mae Jonathan yn rhedwr clwb brwd ar y ffordd a thraws gwlad, ar ôl ymuno â Rhedwyr Penarth a Dinas i ddal ati i gymryd rhan yn y gamp y mae’n ei mwynhau.
Mae Jonathan yn awyddus i sicrhau y gall wneud cyfraniad cadarnhaol a pharhaol i GIG Cymru ac i gleifion yn y blynyddoedd i ddod.